Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:10 22/09/2021
Cafodd swyddogion eu galw i'r llinell ger gorsaf reilffordd Biggleswade, Swydd Bedford, ychydig cyn 2pm ar ddydd Gwener 3 Medi yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.Dywedwyd bod Leo Toze, 17, ynanffodus wedi marw yn y fan a'r lle. Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd teulu Leo: "Roedd Leo yn fab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind annwyl. Roedd hefyd yn fyfyriwr ymroddedig ac eithriadol gyda dyfodol disglair o'i flaen.
"Yn anffodus, roedd yn cael trafferth gyda salwch iselhaol cynyddol, ac, er gwaethaf cariad a chefnogaeth ei deulu a'i ffrindiau, yn y pen draw roedd y salwch hwnnw'n ei llethu, gyda chanlyniadau trasig.
"Rydym yn fwy na thrist ar golli ein bachgen hardd, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto. Ond rydym wedi cael ein cyffwrdd y tu hwnt i fesur gan y gofal a'r pryder a gawsom, weithiau gan ddieithriaid llwyr.
"Mae wedi bod yn dipyn o gysur gwybod bod enw Leo wedi'i grybwyll, ac mae ei fywyd wedi'i gofio, ledled y byd.
"Roedd Leo yn caru anifeiliaid, yn enwedig bleiddiaid, ac felly rydym yn gobeithio gwneud rhodd er cof i elusennau cadwraeth."
Mae teulu Leo wedi dewis rhyddhau'r llun hwn ohono ef a'i fam. Byddem yn gofyn i'r cyfryngau barchu eu preifatrwydd nawr wrth iddynt ddod i delerau â'u colled drasig.