Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:09 24/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i nifer o droseddau rhywiol yn Ne Llundain fis diwethaf yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Ar fore dydd Llun 23 Awst, fe wnaeth dyn ar fwrdd trên a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd Brixton ac Orpington ddatgelu a chyffwrdd ei hun yn amhriodol.
Adroddir bod yr un dyn hefyd wedi cyflawni troseddau rhywiol yng ngorsaf reilffordd Sydenham Hill y bore canlynol (24 Awst).
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100062814.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.