Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:43 22/03/2022
Mae dyn a fethodd â stopio ar signalau coch wrth groesfan wastad wedi cael dirwy a phwyntiau ar ei drwydded, yn dilyn ymchwiliad gan BTP.
Ymddangosodd Paul Brandreth, 48, ac o Dedham Road, Boxted, yn Llys Ynadon Colchester ar ddydd Mawrth 8 Mawrth lle plediodd yn euog i yrru heb ofal a sylw dyledus.
Cafodd naw pwynt ar ei drwydded yrru a gorchmynnwyd iddo dalu costau'n dod i gyfanswm o £545.
Clywodd y llys sut y ceisiodd Brandreth yrru lori sgip ar draws croesfan wastad Chitts Hill am hanner dydd ar 29 Tachwedd 2021 er gwaethaf y signalau coch sy'n dangos bod y rhwystrau'n dechrau gostwng.
Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos y foment frawychus y mae'r cerbyd yn cael ei daro gan y rhwystr ac mae'r lori'n cael ei stopio'n stond.
Cafodd trenau eu stopio a'u rhybuddio wrth i beirianwyr fynychu'r digwyddiad, gan achosi oedi sylweddol i deithwyr ac yn costio cyfanswm o £5,175 i Network Rail.
Dywedodd yr Arolygydd Steve Webster: "Pe byddai trên wedi cyrraedd eiliadau ynghynt gallai'r digwyddiad hwn fod wedi arwain at ganlyniadau a fyddai wedi bygwth bywyd i Brandreth, ac i unrhyw deithwyr a gyrwyr eraill ar y lein.
"Rhaid cymryd croesfannau gwastad o ddifrif, ac rwy'n falch o weld bod gyrwyr diofal yn cael eu cosbi am geisio curo'r system ac achosi aflonyddwch sylweddol i'r rhwydwaith.
"Rhaid cael ychydig o amynedd ac aros nes ei bod yn ddiogel i groesi – nid yw'n werth peryglu eich bywyd chi a bywydau pobl eraill dim ond i arbed ychydig funudau."