Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi'i ddiswyddo o’r llu yn dilyn gwrandawiad camymddwyn cyhoeddus a gynhaliwyd ar ddydd Llun 6 a dydd Mawrth 7 Tachwedd.
Ymddiswyddodd cyn PC Neal Moloney o'i swydd cyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal ac ni fynychodd ei wrandawiad yn y PSD Rooms, ar Toft Green, Efrog. Cafwyd y swyddog o Lundain yn euog o gamymddwyn difrifol a chafwyd ei fod wedi torri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol canlynol:
Ar 7 Hydref 2022 roedd PC Moloney ar ddyletswydd yn ymateb i ddigwyddiad a siaradodd mewn modd amhriodol a rheibus tuag at berson a oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu rhywiol.
Ar 14 Hydref 2022 fe wnaeth ail-fynychu, gan honni ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r person am y digwyddiad blaenorol. Nid oedd ganddo unrhyw ddiben plismona i fod yn bresennol na siarad â nhw, ac arddangosodd ymddygiad amhriodol a rheibus tuag atynt.
Ar 15 Hydref 2022 roedd Maloney ar ddyletswydd a siaradodd â pherson arall mewn modd amhriodol, rhywiol a bygythiol a oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu rhywiol ac aflonyddu rhywiol.
Ar 11 Tachwedd 2022 fe wnaeth sylwadau amhriodol a rheibus tuag at drydydd person a oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu rhywiol.
Ar ddyddiad anhysbys fe wnaeth PC Moloney ymddwyn mewn ffordd amhriodol, rhy gyfarwydd, ac mewn modd rheibus tuag at bedwerydd person a oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu rhywiol.
Dyfarnodd y panel pe na byddai Moloney wedi ymddiswyddo y byddai wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith.
Dywedodd y Pennaeth Safonau Proffesiynol, Pete Fulton, “Roedd hwn yn ymddygiad wedi'i dargedu, wedi'i ailadrodd a pharhaus gan y swyddog ag achwynwyr lluosog, ac rwy’n llwyr gefnogi penderfyniad y panel yn yr achos hwn.
“Rwy’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn anfon neges glir i’r rhai sy’n ceisio cam-ddefnyddio eu safle o rym na fydd yr ymddygiad hwn byth yn cael ei oddef yn ein llu ni.”