Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:51 18/01/2022
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn yng ngorsaf Sheffield.
Am 10.23pm ar ddydd Gwener 31 Rhagfyr, aeth dyn arall at ddyn a oedd yn aros yn y safle tacsis y tu allan i adeilad yr orsaf.
Fe wnaeth y dyn ei daro yn ei wyneb cyn gadael y lle mewn car a gyrru i ffwrdd.
Cafodd y dioddefwr ei daro'n anymwybodol a bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty i gael triniaeth.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un ar fwrdd y trên a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 543 of 31/12/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.