Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:33 22/12/2020
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i ymdaro a arweiniodd at ymosod ar swyddog BTP nad oedd ar ddyletswydd ar y London Underground heddiw yn apelio am dystion.
Ar 10 Rhagfyr am tua 10.40pm, roedd y swyddog ar drên Victoria Line tua'r De yn Kings Cross pan ddaeth yn amlwg bod dwy fenyw yn ymladd mewn cerbyd arall, gan achosi i ddrysau'r tiwb agor a chau.
Ceisiodd y swyddog ymyrryd a daeth dyn, y credir ei fod yn teithio gydag un o'r menywod, yn dreisgar a'i ddyrnu yn ei ben dro ar ôl tro.
Derbyniodd lygad du a chyfergyd. Ni fu unrhyw arestiadau.
Mae swyddogion yn credu bod nifer o bobl ar y tiwb a fydd wedi bod yn dyst i'r digwyddiad hwn ac nad ydynt wedi siarad â'r heddlu eto.
Maent yn apelio i unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, ddod ymlaen a chynorthwyo'r ymchwiliad. Gallwch anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 515 o 10/12/20. Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.