Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:22 08/12/2020
Plediodd Neil Dumican, 22, ac o Fairbrother Crescent, Warrington, yn euog i un cyfrif o dresmasu ar y rheilffordd, un cyfrif o ddifrod troseddol ac un cyfrif o ymosod ar weithiwr brys yn Llys Ynadon Swydd Gaer ar ddydd Mawrth 3 Tachwedd.
Ar ddydd Mercher 25 Tachwedd, dychwelodd i Lys Ynadon Swydd Gaer lle cafodd barnwr ei fod yn euog o’r troseddau a’i orchymyn i dalu cyfanswm o £1,630 mewn costau
Mae'n ofynnol iddo dalu £800 mewn costau am dresmasu ar y rheilffordd yn ogystal â £500 mewn iawndal, gordal dioddefwr o £95, dirwy o £50 ac £85 mewn costau llys am ddifrod troseddol. Am ymosod ar weithiwr brys, mae'n ofynnol iddo dalu £100 mewn iawndal.
Am 8pm ar ddydd Iau 17 Medi, galwyd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) i orsaf reilffordd Padgate, Warrington, yn dilyn adroddiad bod dyn o dan ddylanwad alcohol yn tresmasu ar y rheilffordd ac wedi malu ffenestri siop pysgod a sglodion wedi'i leoli yn yr orsaf.
Mynychodd Heddlu Swydd Gaer hefyd a nododd tyst i'r digwyddiad mai Dumican oedd y troseddwr. Wrth i swyddogion arestio Dumican ar amheuaeth o’r troseddau, fe ddaeth yn ymosodol, gan gicio heddwas o Sir Gaer yn y crimogau.
Cafodd Dumican ei hebrwng i’r ddalfa mewn cerbyd BTP lle cafodd ei arestio ymhellach am ymosod ar weithiwr brys cyn cael ei roi i'r gwely am y noson i gael ei holi ar y diwrnod dilynol ar ôl iddo sobri.
Dywedodd yr Arolygydd BTP, James Mitchell:“Roedd gweithredoedd Dumican ar y noson honno yn ddiofal ac yn anfaddeuol, ac rwyf yn ddiolchgar i’r llysoedd am roi dirwy sylweddol iddo am dresmasu ar y lein. Yn ffodus, ni chafodd y swyddog Heddlu Swydd Gaer y gwnaeth Dumican ymosod arno unrhyw anafiadau difrifol.
“Mae tresmasu'n tarfu’n fawr ar y rhwydwaith ac rydym wedi gweld o lygad y ffynnon y canlyniadau trasig a all ddigwydd o wneud hynny.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n dyst i dresmasu ar y rheilffordd i gysylltu â ni drwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro."
Dywedodd Andrea Graham, pennaeth troseddu a diogelwch rhanbarth Gogledd-orllewin a Chanolog Network Rail: “Mae tresmasu ar y cledrau nid yn unig yn achosi aflonyddwch enfawr sy’n oedi teithwyr ac yn achosi oediadau costus, ond mae hefyd yn hynod beryglus.
“Byddwn bob amser yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflwyno i'r rhai sy'n torri'r gyfraith ar y rheilffordd yn ddiofal. Rydym yn gobeithio y bydd yr achos hwn yn anfon neges gref na fydd tresmasu byth yn cael ei oddef."