Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:43 26/02/2021
Mae bachgen 17 oed wedi’i arestio a’i atgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Diogelu ar ôl cael ei ganfod â £2,000, heroin a chrac cocên yn ei feddiant yng ngorsaf reilffordd Crewe.
Roedd yr arestiad yn rhan o gyfnod o bythefnos o ymdrechion â ffocws lle ymunodd BTP â lluoedd lleol i fynd i'r afael â throseddwyr trefnedig sy'n ddefnyddio'r rhwydwaith reilffyrdd i gludo cyffuriau ac arian anghyfreithlon.
Rhwng dydd Llun 1 Chwefror a dydd Sul 14 Chwefror, cynhaliodd swyddogion 139 o ymgyrchoedd wedi'u targedu ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, gan arestio 94 o bobl, atafaelu 45 casgliad o gyffuriau, £32,920 mewn arian anghyfreithlon a thynnu 21 o arfau peryglus oddi ar y rhwydwaith reilffyrdd.
Mae’r ymgyrchoedd hyn yn cael eu cynllunio gan ddefnyddio’r gudd-wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnal bron yn ddyddiol gan Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP - tîm heddlu sydd wedi'i neilltuo i fynd i’r afael â throseddwyr trefnedig sy’n defnyddio’r rheilffordd i gludo cyffuriau.
Nod allweddol y Tasglu yw nodi a diogelu plant ac oedolion agored i niwed a ddefnyddir yn aml gan y troseddwyr trefnedig hyn i gludo cyffuriau ac arian parod rhwng lleoliadau mewnforio ac allforio, a all fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'i gilydd.
Dywedodd arweinydd Tasglu Llinellau Sirol BTP, y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams: “Yn yr 14 mis ers cyflwyno ein Tasglu, rydym wedi datblygu darlun o sut mae’r troseddwyr trefnedig hyn yn defnyddio’r rhwydwaith reilffyrdd a phobl agored i niwed i gludo cyffuriau ac arian parod rhwng lleoliadau.
“Mae'r ymgyrchoedd hyn sy'n gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr heddlu yn hanfodol wrth darfu ar weithgareddau Llinellau Cyffuriau lle bynnag y mae'n digwydd ac yn atgyfnerthu nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn lle hyfyw i allforio cyffuriau ledled y wlad.
“Blaenoriaeth uchel ein Tasglu penodedig yw nodi plant sy'n cael eu gorfodi i gymryd rhan yn y gweithgaredd troseddol hwn i'w cael allan o niwed ac i ffwrdd o droseddu.
“Dyna pam rydym wedi partneru gyda Chymdeithas y Plant ar ei hymgyrch ymwybyddiaeth Look Closer [Edrychwch yn Agosach], sy’n annog gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd i sylwi ar yr arwyddion y gallai plentyn fod yn cael ei baratoi a'i ecsbloetio pan yw ar y rhwydwaith reilffyrdd a riportio eu pryderon i ni.
“Os ydych yn credu bod plentyn yn cael ei ecsbloetio ar y rhwydwaith reilffyrdd, anfonwch neges destun atom ar 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”
Ers i’r Tasglu gael ei gyflwyno â chyllid y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2019, mae wedi arestio 1,105, atafaelu 576 casgliad o gyffuriau a £368k mewn arian anghyfreithlon, a thynnu 214 o arfau peryglus oddi ar y rhwydwaith reilffyrdd. Mae hefyd wedi sicrhau 15 o gyhuddiadau caethwasiaeth modern.
Dywedodd y Gweinidog Plismona, Kit Malthouse: “Mae'r rhain yn ganlyniadau gwych ac yn dangos y gwaith caled y mae swyddogion BTP wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â'r drosedd niweidiol a gwarthus hon.
“Mae’r Llywodraeth yn cefnogi’r heddlu’n llawn wrth iddynt barhau i chwalu’r gangiau troseddol hyn, sy’n camfanteisio ar y rhai sy’n agored i niwed i gyflenwi’r farchnad gyffuriau a sy'n llenwi eu pocedi eu hunain.
“Fe wnaethom ymrwymo £40m arall ym mis Ionawr i fynd i’r afael â chyflenwad cyffuriau a llinellau cyffuriau ac ymchwyddo gweithgareddau'r heddlu yn erbyn y gangiau didostur hyn - rwy’n falch iawn o weld yr effaith y mae gwaith BTP yn ei chael.”
Trwy gydol yr wythnos, fe wnaeth swyddogion BTP a Chymdeithas y Plant hyrwyddo’r ymgyrch Look Closer [Edrychwch yn Agosach], a ddyluniwyd i annog gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd i ‘Edrych yn Agosach’ am arwyddion y gallai plentyn fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio’n droseddol.
Dywedodd James Simmonds-Read, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol yn rhaglen Atal Cymdeithas y Plant, sy’n rhedeg yr ymgyrch Look Closer [Edrychwch yn Agosach]: “Mae troseddwyr wedi addasu eu dulliau i barhau i ecsbloetio plant yn ystod y cyfyngiadau symud ar adeg pan allent fod yn teimlo’n unig, yn poeni am gyllid teuluol, a heb fawr o seibiant rhag heriau neu beryglon gartref.
“Gall plant fod yn arbennig o agored i gynigion o arian parod, anrhegion, bwyd, cyfeillgarwch a statws ar hyn o bryd - ond mae'r gwaith paratoi hwn yn troi'n orfodaeth yn ddiweddarach wrth i droseddwyr ddefnyddio bygythiadau a thrais dychrynllyd i sicrhau cydymffurfedd â'u gofynion.
“O dan cyfyngiadau symud, mae’r bobl ifanc hyn a’r risgiau y maent yn eu hwynebu yn aml yn llai amlwg i weithwyr proffesiynol megis athrawon a gweithwyr cymdeithasol.
“Dyna pam ein bod yn annog pawb sy'n gweld plant yn eu bywydau dyddiol i wylio am arwyddion ecsbloetio a riportio unrhyw bryderon i'r heddlu, fel y gellir adnabod y bobl ifanc hyn a chynnig yr help sydd ei angen arnynt yn daer."