Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:34 25/09/2020
Cafodd bachgen 13 oed ei arestio a’i gymryd i gael ei warchod gan yr heddlu ar ôl iddo gael ei stopio mewn gorsaf reilffordd yng Nghaint, â £1,500 mewn arian parod a’r holl arwyddion o fod yn ddioddefwr masnachu cyffuriau ym maes llinellau cyffuriaul.
Roedd yr arestiad yn rhan o wythnos lawer mwy o weithredu lle bu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gweithio ochr yn ochr â lluoedd ledled y wlad i fynd i’r afael â gangiau cyffuriau trefnedig sy'n ddefnyddio’r rheilffordd.
Rhwng dydd Llun 14 Medi a dydd Sul 20 Medi, cynhaliodd swyddogion ymgyrchoeddu o'r Alban i arfordir y de, gan arestio 80 o bobl ac atafaelu cyffuriau Dosbarth A, arfau ac arian anghyfreithlon.
Nod allweddol oedd nodi ac amddiffyn plant bregus y mae gangiau'n eu defnyddio'n aml i gludo cyffuriau ar y rheilffordd.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams, o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Yn aml iawn mae’r gangiau trefnedig hyn yn defnyddio plant i gludo cyffuriau ac arian parod ar y rheilffordd.
“Y bwriad yw er mwyn iddyn nhw osgoi cael eu canfod, gan ei fod yn well ganddyn nhw ddefnyddio plant yn hytrach na rhoi eu hunain mewn perygl. Mae'n amlwg y gall y plant hyn fod mor ifanc ag 13 oed, ond rydym yn dod ar draws rhai sy'n 15 oed neu'n hŷn fel mater o drefn.
“Maen nhw'n ysglyfaethu ar eu gwendidau, gan ddefnyddio tactegau ecsbloetiol i ddod â nhw i'w hochr. Byddant yn prynu dillad iddynt, yn rhoi arian iddynt, neu'n cynnig ymdeimlad o berthyn i blant nad oes ganddynt unrhyw beth arall weithiau.
“Rydym yn trin y plant hyn fel dioddefwyr, nid troseddwyr, a gwneir pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ac yn cael cefnogaeth. Rydym am eu cael i ffwrdd o niwed ac i ffwrdd o grafangau gangiau.”
Ers mis Rhagfyr, mae BTP wedi bod yn rhedeg Tasglu Llinellau Cyffuriau arbenigol â chyllid wedi'i sefydlu gan y Swyddfa Gartref.
Mae'r Tasglu'n cynnal ymgyrchoedd bron yn ddyddiol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, ac roeddent yn chwarae rhan fawr yn yr wythnos weithredu, gan dargedu meysydd allweddol lle mae gangiau'n gweithredu fel mater o drefn.
Mae pob gweithrediad yn cael ei chynllunio gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf, a gafwyd gan heddluoedd lleol neu gan weithredwyr trenau yn y diwydiant rheilffyrdd sydd wedi hyfforddi eu staff i nodi arwyddion camfanteisio ar blant a Llinellau Cyffuriau.
Hyd yn hyn mae'r Tasglu wedi arestio 725, wedi gwneud 369 o atafaeliadau cyffuriau, wedi atafaelu £245,000 mewn arian parod ac wedi cymryd 122 o arfau peryglus oddi ar y rheilffordd.
Mae tri deg saith o blant ac oedolion sy'n agored i niwed wedi'u hatgyfeirio i'w diogelu.
Ychwanegodd y Ditectif/Uwch-arolygydd Williams, sy'n arwain Tasglu BTP: “Mae diogelu'n rhan anhygoel o bwysig o'n gwaith. Mae plant sy'n cael eu tynnu i mewn i Llinellau Cyffuriau'n cael eu rhoi mewn perygl mawr o drais, p'un ai yw hynny o aelodau o'r gangiau trefnedig, neu tra'u bod nhw'n cludo cyffuriau ar eu pennau eu hunain i ardaloedd pellennig nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â nhw.
“Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas y Plant a’r diwydiant rheilffyrdd i godi ymwybyddiaeth o arwyddion camfanteisio ac i annog pobl i'w riportio.
“Mae dangosyddion allweddol yn cynnwys person ifanc yn ei arddegau'n teithio pellteroedd maith, ar ei ben ei hun â swm mawr o arian parod, neu'n osgoi unrhyw fath o awdurdod mewn gorsafoedd. Mae'r dangosyddion hyn yn fach ond yn amhrisiadwy ac yn helpu i lywio ble rydym yn targedu nesaf. Mae gennym ddealltwriaeth sy’n esblygu’n gyflym o droseddu Llinellau Cyffuriau ac rydym yn barod i fynd i’r afael ag ef, lle bynnag y mae’r wybodaeth yn ein harwain.”
Trwy gydol yr wythnos, roedd swyddogion BTP a Chymdeithas y Plant yn hyrwyddo’r ymgyrch #LookCloser, a ddyluniwyd i annog gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd i ‘Edrych yn Agosach’ am arwyddion y gallai plentyn fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio’n droseddol.
Mae'r ymgyrch wedi'i hanelu at unrhyw un a allai ddod ar draws plant yn eu bywydau beunyddiol, gan gynnwys gweithwyr y sector gwasanaeth a gweithwyr trafnidiaeth, gan mai lleoedd cyhoeddus yn aml yw lle mae plant sy'n cael eu hecsbloetio'n fwyaf gweladwy.
Dywedodd James Simmonds-Read, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol yn rhaglen Atal Cymdeithas y Plant, sy’n rhedeg yr ymgyrch #Look Closer: “Mae troseddwyr yn paratoi plant trwy drin emosiynol, â chyffuriau ac alcohol neu addewidion o statws a chyfoeth. Yna maent yn eu maglu mewn sefyllfaoedd o ecsbloetio gan ddefnyddio bygythiadau dychrynllyd, trais a cham-drin rhywiol.
“Gall unrhyw blentyn mewn unrhyw gymuned fod yn agored i niwed ond gallant fod yn rhy ofnus i godi pryderon ac nid yw llawer yn ystyried eu hunain yn ddioddefwyr oherwydd iddynt gael eu camddefnyddio.
“Efallai na fyddant yn edrych nac yn gweithredu fel yr ydym yn disgwyl y dylai dioddefwr a gallent er enghraifft fod yn ddig ac yn ymosodol gan fod y rhain yn ymatebion cyffredin i drawma. Felly mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i'r amlwg i weld a oes angen help arnynt.
“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod gweithwyr proffesiynol megis swyddogion heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn ogystal â phawb mewn cymdeithas yn gallu edrych yn agosach am arwyddion rhybuddio o gamfanteisio a riportio pryderon. Dim ond wedyn y gellir adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl a chynnig yr help sydd ei angen taer arnynt.”
Os ydych chi'n credu bod plentyn yn cael ei ecsbloetio ar y rheilffordd, tecstiwch Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016. Mewn argyfwng deialwch 999 bob amser.
__________________________________________________________
Enghreifftiau o'r wythnos:
• Arestiwyd bachgen 13 oed o Lundain yng Nghaint, â symiau sylweddol o arian parod yn ei feddiant ac fe’i rhoddwyd i gael ei amddiffyn gan yr heddlu.
• Yn Stockwell yn Ne Llundain, arestiwyd llanc 15 oed â chyffuriau Dosbarth A, fel rhan o ymgyrch cyffuriau â chŵn. Roedd ganddo docyn trên i ddinas yn Ne-orllewin Lloegr ac roedd wedi bod ar goll ers cyfnod. Roedd ganddo £700 mewn arian parod a 10 bag o'r hyn yr amheuwyd yr oedd yn gyffuriau Dosbarth A.
• Yng Ngorsaf Reilffordd Preston chwiliwyd dyn gan swyddogion. Daeth swyddogion o hyd i ddau fag mawr o ganabis llysieuol wedi'u pacio dan wactod a dau floc mawr o'r hyn y credir ei fod yn resin canabis, â gwerth stryd sylweddol.
• Yn Norwich, arestiwyd dau ddyn am ymwneud â chyflenwi cyffuriau. Adenillwyd un ‘ffôn delio’, a oedd yn cysylltu â llinell gyffuriau yn rhedeg o Lundain i Norfolk. Cafwyd hyd i gyffuriau ar y rhai a amheuid tra roeddent yn y ddalfa.
• Arestiwyd llanc 16 oed â chyffuriau dosbarth A yng Nghaerwysg, a oedd yn dod o Essex. Amheuir ei fod yn cael ei ecsbloetio ac mae wedi cael ei atgyfeirio i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Diogelu.
• Yn Basingstoke, stopiwyd llanc 16 oed â chwe bag o ganabis, £375 mewn arian parod a dwy ffôn symudol, un o'r ffonau'n dangos tystiolaeth o gyflenwi cyffuriau. Ar yr un diwrnod yn Basingstoke, arestiwyd dyn â 285 lapiad o gyffuriau dosbarth A, â gwerth stryd amcangyfrifedig o £5000.
• Yn Andover, stopiwyd dau unigolyn â chrac cocên a heroin yn eu meddiant a nodwyd ffynhonnell eu cyflenwad. Stopiwyd cerbyd funudau'n ddiweddarach. Roedd y llinell deliaun yn y cerbyd ac arestiwyd y tri pherson y tu mewn.
• Arestiwyd dau ddyn am ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A yng ngorsaf Nottingham. Roeddent wedi ceisio rhentu car o'r safle rhentu ceir yn yr orsaf. Fe'u chwiliwyd, a daethpwyd o hyd i swm mawr o arian parod, na allent gyfrif amdano, yn ogystal â nifer o ffonau symudol.