Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:42 09/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol yng ngorsaf reilffordd Harrogate yn rhyddhau'r ddelwedd teledu cylch cyfyng hon mewn cysylltiad ag ef.
Am 7.08pm ar ddydd Sadwrn 7 Awst, roedd menyw ifanc yn aros am drên pan ddaeth dyn ati a geisiodd gychwyn sgwrs gyda hi. Trodd hi i ffwrdd oddi wrtho, a pharhaodd y dyn i siarad â hi cyn ymosod arni'n rhywiol.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 567 o 07/08/21.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.