Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 21/07/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad pan boerwyd ar fenyw yn rhyddhau'r ddelwedd CCTV hon mewn cysylltiad ag ef.
Ychydig ar ôl 6.30pm ar ddydd Gwener 11 Mehefin, roedd y ddioddefwraig yn teithio ar fwrdd Tube rhwng gorsafoedd Whitechapel a West Ham pan safodd dyn ar ei throed.
Daeth hi a'r dyn oddi ar y trên yn West Ham ac fe wnaeth y ddau fyrddio ail drên yn teithio tuag at Barking.
Pan oedd y dyn ar fin gadael y trên yn Barking, fe wnaeth ostwng gorchudd ei wyneb a phoeri ar y ddioddefwraig.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 570 o 11/06/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.