Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:09 28/04/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar drên rhwng gorsaf Freshfield a Southport yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Tua 10.45am ar ddydd Sul 27 Mawrth, aeth dyn at fenyw a oedd yn aros ar y platfform yng ngorsaf Freshfield a dechreuodd sgwrsios a dechrau gwneud sylwadau rhywiol amhriodol tuag ati.
Aeth y fenyw ar drên a dilynodd y dyn hi. Yn ystod y daith parhaodd i wneud sylwadau rhywiol tuag ati ac ymosododd yn rhywiol arni cyn i'r ddau fadael y trên yng ngorsaf Southport.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 117 o 27/03/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.