Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:15 06/06/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar wasanaeth o Fanceinion Piccadilly i Leeds yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Tua 6.30pm ar ddydd Sul 8 Mai, byrddiodd dyn y trên yng ngorsaf Stalybridge ac eisteddodd i lawr wrth ymyl y ddioddefwraig. Dechreuodd siarad â hi am ble'r oedd hi'n teithio idd a gofyn ei henw. Yna ymosododd yn rhywiol arni.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200045405.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.