Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:28 06/12/2021
Ydych chi'n adnabod y bobl hyn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Sheffield yn rhyddhau’r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am ychydig cyn 10.30pm ar ddydd Sadwrn 9 Hydref, sylwodd y ddioddefwraig ar ddyn yn edrych ar ei ffrind yn amhriodol cyn mynd ato a'i herio ar ei ymddygiad.
Yna cerddodd y ddioddefwraig a'i ffrind i ffwrdd o'r dyn, ond fe wnaeth menyw a oedd gydag ef eu dilyn i un o lwyfannau'r orsaf gan daro'r ddioddefwraig yn ei hwyneb gyda photel.
O ganlyniad i'r ymosodiad dioddefodd y ddioddefwraig gleisio i'w hwyneb a chrafu uwchben ei llygad.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y pâr yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n eu hadnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 169 of 10/10/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.