Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:06 15/11/2021
Mae’r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar drên oedd yn teithio rhwng Caeredin a Montrose ac yn apelio am wybodaeth bellach.
Ar Ddydd Gwener, Hydref 22, daeth dyn ar y trên oedd yn gadael Caeredin am 8.32pm o orsaf Waverley’r ddinas, a sylwodd menyw ar y trên ei fod yn rhythu ac yn chwifio arni.
Yna aeth i eistedd ar bwys y fenyw gan ddechrau gwneud sylwadau rhywiol tuag ati, cyn ymosod arni’n rhywiol.
Yn ôl disgrifiad mae’r dyn yn wryw du a chanddo gorff canolig o ran maint, tua 6 troedfedd o daldra, gyda chraith uwchben ei ael. Roedd yn gwisgo siaced Moncler glas tywyll, jîns du ac esgidiau rhedeg glas a gwyn.
Mae’r heddlu yn awyddus i sgwrsio gydag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad er mwyn eu helpu gyda’u hymchwiliadau.
Gall tystion neu unrhyw un a chanddynt wybodaeth, ddod i gyswllt â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, drwy anfon neges testun at 61016 neu drwy alw 0800 40 50 40 gan ddyfynu cyfeirnod 705 o 22/10/21.
Fel arall, gallwch alw Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.