Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:20 05/10/2021
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i drosedd dinoethiad anweddus ar drên rhwng Chesterfield a Sheffield yn apelio am fwy o wybodaeth.
Tua 10.15pm ar y gwasanaeth 8.31pm o Lundain St Pancras ar ddydd Gwener 3 Medi, eisteddodd dyn gyferbyn â menyw a'i gyffwrdd ei hun yn amhriodol o'i blaen.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau, yn enwedig teithiwr a ymyrrodd i helpu'r ddioddefwraig.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 180 o 04/09/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.