Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:40 23/12/2021
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad domestig ar drên rhwng Leeds a Sheffield.
Tua 11pm ar ddydd Gwener 26 Tachwedd, roedd dyn a menyw ar fwrdd y gwasanaeth yn cymryd rhan mewn dadl.
Ar ôl ychydig o amser, ymosododd y dyn ar y fenyw drwy ei chicio.
Yna, gadawodd y ddau y gwasanaeth yng ngorsaf reilffordd Swinton.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un ar fwrdd y trên a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 743 of 26/11/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.