Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:34 24/02/2021
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad ar fwrdd gwasanaeth rhwng gorsafoedd Waterloo a Blundellsands & Crosby, Glannau Mersi, heddiw yn apelio am dystion.
Am 5pm ar ddydd Mercher 20 Ionawr, tynnodd dyn y brâc argyfwng yng ngherbyd y trên. Wrth i yrrwr y trên ailosod y brâc, cafodd ei ddyrnu yn ei wyneb gan y dyn.
Yna fe wnaeth y dyn fygwth gard y trên cyn i deithwyr ar fwrdd y gwasanaeth ymyrryd i dawelu'r sefyllfa.
Os gwelsoch y digwyddiad, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100003649.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.