Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:17 21/03/2022
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol yng ngorsaf Worksop yn apelio am ragor o wybodaeth.
Am 5pm ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth, roedd merch yn ei harddegau yn aros ar blatfform 2 yn yr orsaf pan ddaeth dyn ati ac ymosodwyd arni'n rhywiol.
Yna aeth y dyn ar drên i Lincoln.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 459 of 05/03/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.