Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:17 08/04/2021
Mae swyddogion yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad rhywiol ar fwrdd gwasanaeth a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd rheilffordd Birmingham New Street a Chaerlŷr.
Am oddeutu 7pm ar ddydd Llun 29 Mawrth, cyffyrddwyd â’r ddioddefwraig yn amhriodol wrth iddi eistedd yng ngherbyd y trên.
Symudodd hi i ffwrdd a gweld llaw yn agos at y man lle'r oedd hi'n eistedd o'r blaen.
Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd ar fwrdd y gwasanaeth ar y pryd ac a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.
Gall unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 462 o 29/03/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.