Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:45 28/04/2021
Mae ditectifs yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad rhywiol ar ferch yng ngorsaf reilffordd Gravelly Hill, Birmingham.
Rhwng 10pm a 10.30pm ar ddydd Iau 15 Ebrill, ymosodwyd yn rhywiol ar ferch gan ddyn y cyfarfu hi ag ef yn gynharach ar y noson.
Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr orsaf ar y pryd ac a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad neu a allai fod â gwybodaeth.
Maent yn arbennig o awyddus i siarad ag aelod o’r cyhoedd a siaradodd â thri o bobl, gan gynnwys y ddioddefwraig, a oedd yn eistedd yng nghysgodfa’r orsaf ar y noson honno.
Gall unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 67 o 16/04/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111