Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:39 21/06/2021
Mae swyddogion yn apelio am dystion wedi digwyddiad o beryglu'r rheilffordd ger Preston yn gynharach y mis hwn.
Dros nos ar ddydd Sadwrn 5 Mehefin taflwyd carreg balmant o bont reilffordd dros y ffordd ger gorsaf reilffordd Lostock Hall ychydig y tu allan i Preston.
Achosodd y garreg ddifrod i naw trên a oedd yn pasio, ceblau trydanol ac arweiniodd at ychydig llai na £20,000 mewn costau tarfu.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 207 o 05/06/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.