Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:34 17/08/2022
Mae ditectifs yn apelio am ragor o wybodaeth wedi i ddyn ddioddef ymosodiad rhywiol yng ngorsaf Sheffield.
Am 5.20pm ar ddydd Gwener 5 Awst fe ymosododd menyw yn rhywiol ar ddyn wrth iddi gerdded heibio iddo ar gyntedd yr orsaf. Yna fe wnaeth hi ei sarhau'n eiriol cyn cerdded i ffwrdd.
Disgrifir y fenyw fel un gwyn, tua 5 tr 6 modfedd o daldra, rhwng 50-60 mlwydd oed, gyda gwallt golau a llwyd hyd ysgwydd.
Ar adeg y digwyddiad roedd yr orsaf yn brysur iawn gyda theithwyr. Mae swyddogion yn awyddus i siarad gydag unrhyw un allai fod wedi gweld y digwyddiad i gynorthwyo eu hymchwiliad.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 468 o 05/08/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.