Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:47 15/09/2021
Heddiw mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar drên a oedd yn teithio o Glasgow Queen Street i orsaf Easterhouse yn apelio am ragor o wybodaeth.
Tua hanner nos ar ddydd Sadwrn 11 Medi, byrddiodd y dioddefwr a'i bartner wasanaeth prysur yn Glasgow Queen Street. Bu'n cymryd rhan mewn anghydfod geiriol gyda grŵp o dri dyn a ymosododd arno wedyn.
Fe'i trawyd ar draws ei ben sawl gwaith, gan achosi clwyf rhwygiad ar ei dalcen, llygad du a chwydd.
Disgrifir y dyn cyntaf yn y grŵp fel gwyn, 6 troedfedd o daldra, yn ei 40au cynnar ac o gorffolaeth fain. Roedd yn gwisgo siaced fomiwr ddu hir gyda chrys pêl-droed Celtic a chlustlws. Roedd yr ail yn ddyn gwyn gyda gwallt brown byr, llygaid glas. Disgrifir y trydydd fel gwyn, 5 troedfedd 10, yn ei 30au hwyr ac o gorffolaeth gymedrol. Roedd ganddo wallt golau a sofl, yn gwisgo top coch.
Ar adeg y digwyddiad, roedd y gwasanaeth yn hynod o brysur gyda. Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad neu wedi cael unrhyw luniau ar eu ffonau symudol i gynorthwyo gyda'u hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 20 o 12/09/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.