Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:14 26/11/2021
Oeddech chi ger gorsaf reilffordd Peterborough ar nosweithiau dydd Mawrth 26 Hydref neu ddydd Iau 18 Tachwedd?
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddau ddigwyddiad o ddwyn cebl o gwrt ar Midland Road Peterborough heddiw yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gynorthwyo gyda’u hymholiadau.
Rhwng 3pm ar 25 Hydref ac 8am ar 26 Hydref, cafodd swm sylweddol o gebl rheilffordd ei ddwyn o gompownd ar Midland Road yn Peterborough.
Targedwyd yr un cwrt a dygwyd mwy o gebl rhwng 9pm ar 17 Tachwedd a 5am ar 18 Tachwedd.
Cyfanswm gwerth y cebl rheilffordd sydd wedi'i ddwyn yw oddeutu £75,000.
Mae ditectifs yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal a allai fod wedi bod yn dyst i rywbeth neu sydd â gwybodaeth a fydd yn cynorthwyo gyda'u hymchwiliad.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2100083516.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.