Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:30 02/07/2021
Mae detectifs yn apelio ar frys am dystion yn dilyn ymladd yn cynnwys grŵp mawr o bobl ifanc ar fwrdd gwasanaeth a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd rheilffordd Balloch ac Anniesland.
Cafodd swyddogion eu galw i orsaf reilffordd Anniesland am 6.24pm yn dilyn adroddiadau am ymladd ar fwrdd trên yn teithio o Balloch.
Cafodd un person ei arestio ar amheuaeth o drosedd Adran 38 ac ers hynny mae wedi'i ryddhau tra bod ymholiadau i'r digwyddiad hwn yn parhau.
Cafodd tri o bobl driniaeth ar gyfer anafiadau arwynebol.
Gall unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 552 o 01/07/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.