Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:20 12/07/2021
Mae ditectifs yn apelio i dystion ddod ymlaen ar ôl ymosodiad rhywiol ar drên yn teithio rhwng gorsafoedd rheilffordd Balloch ac Airdrie.
Ar ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf aeth dyn at ferch yn ei harddegau ar y gwasanaeth 16:38 tuag at Airdrie. Yn ystod y daith ymosododd y dyn arni'n rhywiol a gwnaeth sylwadau amhriodol tuag ati.
Gadawodd y dyn y trên yng ngorsaf Charing Cross am 5.30pm gyda grŵp o ddynion eraill.
Disgrifir y dyn fel dyn gwyn yn ei 60au, tua 5'7 o uchder ac o gorffolaeth fawr. Roedd ganddo wallt llwyd, cyrliog ac roedd yn gwisgo crys-t print seicedelig gyda throns tywyll a sbectol haul crwn ar y pryd, gan arddangos tatŵs ag ysgrifennu a sêr.
Ar adeg y digwyddiad roedd y gwasanaeth yn brysur iawn gyda theithwyr, mae swyddogion am siarad ag unrhyw un a allai fod wedi ei weld er mwyn cynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 506 o 03/07/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.