Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:28 13/03/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn apelio ar frys am dystion ar ôl ymosodiad ar swyddogion yng ngorsaf reilffordd Stirling.
Am ychydig cyn 10.30pm ar ddydd Gwener 12 Mawrth, gwnaed swyddogion yn ymwybodol o garfan fawr o bobl ifanc yn ymgynnull ym maes parcio'r orsaf.
Aeth y swyddogion at y garfan a gofyn iddynt adael cyn i sawl aelod o'r grŵp ymosod ar y swyddogion.
Fe wnaeth tri swyddog dderbyn triniaeth feddygol, ond yn ffodus dim ond anafiadau cymharol fach a gafwyd.
Mae pump o bobl wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn.
Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.
Gall unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 581 o 12/03/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.