Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:36 05/07/2021
Heddiw, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng yn dilyn lladradau yng ngorsaf Bromsgrove yn Swydd Gaerwrangon a gorsaf Northfield yn Birmingham.
Digwyddodd y troseddau rhwng 9pm a 9.45pm ar ddydd Mawrth 4 Mai 2021.
Yn y digwyddiad cyntaf, yng ngorsaf Bromsgrove, rhoddwyd dioddefwr mewn clo pen a chafodd ei sigarét electronig ei ddwyn.
Yn yr ail ddigwyddiad, yng ngorsaf Northfield, cafodd sgwter electronig y dioddefwr ei ddwyn.
Hoffai swyddogion siarad â'r ddau berson yn y delweddau a allai fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Gall unrhyw un sy'n eu hadnabod gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40 a dyfynnu'r cyfeirnod 543 o 04/05/21.
Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw drwy ddeialu 0800 555 111.
Delwedd apêl # 1
Delwedd apêl # 2