Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:25 18/08/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle ymosodwyd yn rhywiol ar dair merch yn eu harddegau ar fwrdd trên a oedd yn teithio rhwng gorsaf Huyton a St Helens yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am 8.40pm ar ddydd Mercher 28 Gorffennaf, byrddiodd dyn y trên ac eistedd wrth ymyl y tair merch.
Gwnaeth sylwadau rhywiol tuag atynt ac ymosododd arnynt yn rhywiol.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymholiadau.
Os ydych yn ei adnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 513 o 28/07/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.