Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:24 02/07/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar fwrdd gwasanaeth a oedd yn teithio rhwng Caerlŷr a Derby yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o ddyn yr hoffent siarad ag ef mewn cysylltiad ag ef.
Ychydig ar ôl 8pm ar ddydd Gwener 4 Mehefin, aeth dyn ar drên yng ngorsaf reilffordd Caerlŷr ac eistedd gyferbyn â'r ddioddefwraig, sef merch 13 oed.
Yn ystod y daith dechreuodd y dyn gyffwrdd â'r ferch yn amhriodol. Stopiodd y ferch y dyn, ac atebodd ef "gan bwyll, deigr".
Fe wnaeth y dyn a'r ddioddefwraig adael y trên yng ngorsaf reilffordd Derby.
Mae swyddogion o'r gred y gallai'r dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 639 o 04/06/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.