Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:37 09/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar fwrdd trên yn credu y gallai fod ganddo wybodaeth allweddol i helpu eu hymchwiliad.
Yn fuan ar ôl 11.30pm ar ddydd Sadwrn 21 Awst byrddiodd dyn wasanaeth Blackpool North i Liverpool Lime Street yn Wigan ac eistedd wrth ymyl y ddioddefwraig, gan ddechrau sgwrsio gyda hi.
Yna ymosododd arni'n rhywiol a'i ddinoethi ei hun cyn cael ei ofyn i symud o'i sedd gan yr archwiliwr tocynnau.
Yna dychwelodd y dyn i eistedd wrth ymyl y ddioddefwraig cyn gadael y trên yng ngorsaf Edge Hill.
Mae swyddogion yn credu bod gan y dyn a ddangosir yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng hon wybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n gwybod pwy yw e yna cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100060257
Neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.