Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:23 12/08/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol ar ferch 12 oed yn Llundain yn rhyddhau'r delweddau teledu cylch cyfyng hyn mewn cysylltiad ag ef.
Ar 28 Mai tua 4.05pm, gadawodd y ddioddefwraig drên DLR yng ngorsaf Blackwall gyda ffrind.
Wrth iddyn nhw droi i lawr y grisiau, ymosodwyd yn rhywiol ar y ddioddefwraig gan ddyn.
Yna cerddodd heibio iddi i lawr y grisiau.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 398 o 28/05/21. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.