Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:13 10/02/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ladrad yng ngorsaf Danddaearol Walthamstow Central yn rhyddhau delwedd teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 9.48pm ar ddydd Gwener 15 Ionawr, roedd y dioddefwr yn teithio i fyny esgaladur yn yr orsaf pan ddaeth dyn ato a'i wthio drosodd a chymryd ei waled o'i boced gefn.
Yna fe wnaeth y dyn adael yr orsaf â waled y dioddefwr.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 493 o 15/01/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.