Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:07 12/03/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Glasgow Central, yr Alban, yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 1.30pm ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2020, heriwyd dyn wrth rwystrau tocynnau'r orsaf gan aelod o staff y rheilffordd am geisio teithio ar docyn plentyn.
Gwrthodwyd i’r dyn deithio am gael tocyn annilys cyn iddo boeri yn wyneb yr aelod o staff y rheilffordd a rhedeg allan o’r orsaf.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000085354.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.