Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:01 07/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad o drechu gwedduster cyhoeddus ar drên oedd yn teithio rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd yn rhyddhau'r delwedd hyn mewn cysylltiad.
Am tua hanner dydd ar ddydd Sadwrn 14 Awst, sylwodd dau deithiwr ar ddyn a oedd yn eistedd ychydig resi i ffwrdd oddi wrthynt. Daliodd un o'r teithwyr ei lygad a sylwi ei fod yn cyffwrdd ei hun yn amhriodol o dan ei drowsus.
Cododd y teithwyr i symud i ffwrdd oddi wrth y sawl a ddrwgdybir, a wedyn fe gadawodd y trên yng ngorsaf reilffordd Hwlffordd.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delwedd teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 281 o 14/08/21. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.