Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:55 20/10/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng ngorsaf reilffordd Waltham Cross yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am ychydig wedi 1am ar ddydd Mercher 13 Hydref, roedd merch yn ei harddegau'n aros am dacsi y tu allan i'r orsaf pan aeth dyn ati gyda'i ddwylo i lawr ei drowsus loncian.
Yna fe wnaeth gyffwrdd ei hunan yn amhriodol o dan ei drowsus loncian o flaen y ddioddefwraig a aeth i mewn i dacsi wedyn i ddianc rhagddo.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100076521.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.