Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:53 24/12/2020
Ydych chi'n adnabod y dynion hyn?
Heddiw mae ditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng ngorsaf Barnes yn rhyddhau’r delweddau teledu cylch cyfyng hyn mewn cysylltiad ag ef.
Ar 7 Tachwedd tua 12.25pm, gofynnodd y dioddefwr, dyn 52 oed, i ddau ddyn wisgo gorchuddion wyneb ar fwrdd trên.
Fe wnaeth y ddau ddyn ddigio am hyn gan gicio’r dioddefwr wrth iddo adael y trên yng ngorsaf Barnes. Yna fe wnaethant ymosod arno ar y platfform ag arf y credir ei fod yn arf dwrn.
Aethpwyd â'r dioddefwr i'r ysbyty lle derbyniodd driniaeth ar gyfer sawl asen wedi'u torri ac ysgyfant wedi'i dyllu
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dynion yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n eu hadnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 180 o 07/11/20. Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.