Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:32 16/08/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yn erbyn teithiwr yng ngorsaf Waterloo yng Nglannau Mersi heddiw yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am 6pm ar ddydd Sadwrn 6 Awst, dechreuodddd anghydfod rhwng dyn yn ei 40au a dyn ifanc wedi i feic y dyn ifanc daro coesau'r dyn arall.
Aeth y dyn ifanc ati i ddyrnu'r dioddefwr unwaith yn ei wyneb, a achosodd iddo syrthio i'r llawr yn anymwybodol. Yna gadawodd y dyn ifanc yr orsaf.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 442 o 06/08/22.
Fel arall, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.