Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:29 19/05/2022
Heddiw, mae ditectifs sy'n ymchwilio i anghydfod ar fwrdd trên llinell District rhwng Blackfriars a Mansion House yn apelio am ragor o wybodaeth.
Am 4.30pm ar ddydd Sul 24 Ebrill, cychwynndd anghydfod rhwng dau ddyn ar y trên. Yna cafodd un o'r dynion ei frathu ar y fraich gan gi'r dyn arall.
Cafodd ei drin yn yr ysbyty am y brathiad i'w fraich a chlwyfau i'w frest.
Disgrifir perchennog y ci fel tua 60 mlwydd oed, gwyn, o gorffolaeth fain a gyda gwallt llwyd. Ar adeg y digwyddiad roedd yn gwisgo siaced pwffer gwyn, gyda bag du dros ei ysgwydd, a sbectol gyda chord du o amgylch ei wddf.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 339 o 24/04/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.