Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:13 11/02/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle'r oedd dyn yn dinoethi ei hun i ddwy fenyw ar fwrdd trên o Lundain i Birmingham yn rhyddhau delweddau mewn cysylltiad ag ef.
Tua 11pm ar 17 Rhagfyr 2021, symudodd dyn seddi o fewn cerbyd y trên wrth iddo nesáu at Milton Keynes er mwyn eistedd gyferbyn â dwy fenyw.
Yna dechreuodd y dyn gyffwrdd ei hun yn amhriodol a'i ddinoethi ei hun wrth edrych ar y ddwy fenyw.
Parhaodd i wneud hyn am 20 munud cyn gadael y trên yng ngorsaf Birmingham Moor Street.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100098096.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.