Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:05 12/11/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i drosedd dinoethiad anweddus ar fwrdd trên yn Ne Llundain yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 7.30pm ar 6 Hydref, eisteddodd dyn gyferbyn â menyw ar fwrdd gwasanaeth a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd Penge East a Brixton.
Yna gofynnodd gwestiwn iddi ac ymatebodd hi iddo cyn edrych allan o’r ffenestr. Aeth ychydig eiliadau heibio, a gofynnodd ail gwestiwn iddi. Trodd o gwmpas i weld bod y dyn wedi dinoethi ei hun yn amhriodol, felly cododd ar unwaith a cherdded i ffwrdd oddi wrtho.
Gadawodd y dyn y trên pan gyrhaeddodd Brixton.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 429 o 06/10/21.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.