Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:12 11/08/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle gwnaeth dyn ddinoethi ei hun i ferch yn ei harddegau yn rhyddhau'r ddelwedd CCTV hon mewn cysylltiad ag ef.
Ychydig ar ôl hanner nos ar ddydd Gwener 4 Mehefin, gadawodd y ddioddefwraig orsaf reilffordd Reading West wrth iddi deithio'n ôl o dŷ ffrind pan weiddodd dyn "esgusodwch fi, dewch yma" o bell.
Trodd o gwmpas a dinoethodd y dyn ei hun cyn cyffwrdd ei hun yn amhriodol.
Yna rhedodd y ddioddefwraig i ffwrdd oddi wrth y dyn.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r 2100052369.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.