Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:22 20/04/2022
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle'r oedd dyn yn mastyrbio wrth ymyl menyw ar wasanaeth Isffordd rhwng Gorsafoedd St Enoch a St George's Cross yn apelio am ragor o wybodaeth.
Ar y gwasanaeth 11.42am ar ddydd Iau 14 Ebrill, safodd dyn wrth ymyl menyw ar y trên ac aeth ymlaen i ddatgelu ei hun a mastyrbio o'i blaen. Yna, gadawodd y trên yn St George's Cross.
Mae'r dyn yn cael ei ddisgrifio fel gwyn, yn ei 20au hwyr, tua 5tr 11, ac o gorffolaeth denau. Roedd ganddo barf penfelen a sinsir ac ar adeg y digwyddiad roedd yn gwisgo cardigan caci, trowsus beige, a chap pêl fas.
Roedd y gwasanaeth yn brysur iawn ar y pryd, ac mae swyddogion am siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i ddod ymlaen a darparu unrhyw wybodaeth i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 246 f 14/04/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.