Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:28 11/06/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng ngorsaf reilffordd Parc Hampden, Dwyrain Sussex, yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am 6.45pm ar ddydd Mawrth 18 Mai, byrddiodd dyn drên yng ngorsaf Parc Hampden a chafodd ffrae gyda'r dioddefwr wrth iddo adael yr orsaf.
Yn ystod y ffrae ymosododd y dyn ar y dioddefwr gyda photel wedi torri, gan achosi rhwygiadau i wyneb a phen y dioddefwr.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 529 o 18/05/2021.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.