Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:36 15/04/2021
Mae swyddogion yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad ar ddyn ar fwrdd Tiwb Northern line a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd Tottenham Court Road a Tufnell Park Underground.
Am ychydig ar ôl 4pm ar ddydd Gwener 26 Mawrth, roedd y dioddefwr yn teithio ar y gwasanaeth yn chwarae gêm ar ei ffôn pan wnaeth merch a oedd yn eistedd gyda grŵp o bobl ei gyhuddo o’u ffilmio
Yna aeth y ferch a gweddill y grŵp, a oedd yn cynnwys dwy ferch arall a thri bachgen, at y dioddefwr a dechrau ei ddyrnu nes iddo syrthio ar y llawr.
Yna stampiodd un o'r merched ar figwrn y dioddefwr, gan ei dorri mewn dau le.
Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd ar fwrdd y gwasanaeth ar y pryd ac a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.
Gall unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 325 o 26/03/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.