Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:06 17/10/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Sowerby Bridge yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 11.20am ar 14 Awst, ceisiodd y dioddefwr 73 oed fynd fyrddio gwasanaeth oedd yn mynd i Blackpool pan darodd ei gês yn erbyn menyw ar y trên.
Yna fe wnaeth dyn gyda'r ddynes sarhau'r dioddefwr a'i ddyrnu yn ei wyneb. O ganlyniad i'r ymosodiad fe syrthiodd y dioddefwr i'r llawr a dioddef trwyn oedd wedi'i dorri.
Fe wnaeth y dyn adael y gwasanaeth yn Preston.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 192 o 14 Awst.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111..