Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:49 13/12/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Sheffield yn rhyddhau’r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am ychydig ar ôl 8.30pm ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd, roedd y dioddefwr a dyn anhysbys yn cymryd rhan mewn anghydfod ar lafar ar lwyfan 1b yn yr orsaf.
Ar ôl ychydig o amser fe wnaeth y dyn daro'r dioddefwr ddwywaith yn ochr yr wyneb.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 492 of 27/11/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.