Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
03:32 18/05/2022
Mae ditectifs yn apelio am dystion mewn cysylltiad â digwyddiad lle cafodd dyn ei ddyrnu sawl gwaith a'i daro i'r ddaear.
Am 11.20pm neithiwr (dydd Mawrth 17 Mai 2022), galwyd swyddogion i'r digwyddiad yng Ngorsaf Reilffordd Christchurch, Dorset, lle gwnaethant arestio dau ddyn 17 oed sydd bellach yn y ddalfa.
Mae'r dioddefwr yn yr ysbyty ar hyn o bryd lle mae'n cael triniaeth feddygol.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr orsaf neu o'i hamgylch ar y pryd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Mike Blakeburn: "Credwn fod nifer o bobl yn yr orsaf neu o'i hamgylch ar y pryd.Yn benodol, credwn y bu dyn arall yn agos at y digwyddiad a allai fod â gwybodaeth hanfodol a allai ein helpu gyda'n hymchwiliad.Hoffwn apelio arno i ddod ymlaen a'n helpu gyda'n hymholiadau.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 756 o 17/5/22. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.