Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
20:01 18/05/2022
*Diweddariad - arestiwyd y ddau ddyn am niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac maent yn 36 a 34 oed*
_______________________________________________________
Ychydig cyn 5pm heno cafodd swyddogion eu galw i adroddiad am ymladd ar fwrdd trên. Roedd y trên yn teithio o Fanceinion Piccadilly i Reading.
Pan gyfarfu swyddogion â'r trên yn Birmingham New Street, daethant o hyd i ddyn anymwybodol ar fwrdd y trên. Cafodd y dyn ei drin yn y fan a'r lle gan feddygon Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr ac mae wedi cael ei gludo i'r ysbyty.
Mae dau ddyn, 36 a 34 oed, wedi cael eu harestio am niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad a hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio ar y trên neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 466 o 18/5/22. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.